Beth sydd ymlaen
Yn ogystal ar argaeledd dyddiol y Bistro rydym yn cynnig digwyddiadau arbenning trwy gydol y flwyddyn. Edrychwych isod i weld beth sydd ymalen.
I holi am unrhywbeth ebostiwch restaurant@bwtheatrclwyd.com
Digwyddiadau syddi ddod
Cynnig arbennig pastai y gaeaf i ddau.
Y cynnig perffaith ar gyfer y Gaeaf
Gwnewch y dyddiau oer yn dipyn mwy arbennig gyda’n pastai i’w rhannu rhwng dau, wedi’i gweini gyda llysiau tymhorol, dim ond £37.50.
Beth am wneud y profiad yn fwy arbennig fyth gyda gwydraid o’n gwin tŷ dim ond £5.50 y pen – y cyfuniad perffaith ar gyfer cinio clyd gyda’ch gilydd.
Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 12 - 2.30yp a 5 - 7yh o Ionawr 4ydd i 29fed.
Bwyd da, gwin gwych a rhywbeth blasus i’w rannu.
Ionawr 25fed Santes Dwynwen
Santes Dwynwen, ein fersiwn Gymraeg o Ddydd San Ffolant. Tywysoges Gymreig y bedwaredd ganrif a weddïodd am wir gariadon i gael gwell lwc na hi.
Dathlwch ddiwrnod cariadus gyda bwyd unigryw, awyrgylch rhamantus, a phrofiad bythgofiadwy.
Prydau arbennig yn cael eu gweini rhwng 23fed i 25fed o Ionawr
Bwydlen a la carte yn cael ei weini hefyd.
Chwefror 12fed i 14fed Penwythnos San Ffolant
Mae swper ar gael heb docyn y theatr.
Mwynhewch leoliad gwych ar gyfer rhamant. Ymlaciwch gyda swper i ddau gyda golygfeydd bendigedig o'r fynyddoedd Dyffryn Clwyd
Dathlwch gariad gyda'n prydau San Ffolant wedi'i greu yn arbennig. Ar gael Chwefror 13fed a ddydd Sul 14eg.
Bwydlen arbenning yn cynnwys tê neu goffi £44
Bwydlen a la carte yn cael ei weini hefyd.
Chewfror 28fed Cinio Sul Gŵyl Ddewi
Am ddathliad hamddenol, ymunwch â ni am ginio dydd Sul arbennig i ddathlu Gwyl Ddewi gyda chanu byw gan cor Meibion Marchan.
Does dim angen tocynnau i sioe, mwynhewch brynhawn cynnes a chartrefol yn dathlu'r gorau oll o fwyd a diod Cymreig, wedi ei baratoi'n a'i weini'n hwyliog.
12 - 4yh
Cinio 3 chwrs yn cynnwys te neu goffi £44
Mawrth 7fed Sul y mamau
Dathlwch Sul y Mamau gyda ni a mwynhewch fwyd lleol eithriadol, awyrgylch hamddenol, a golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd.
Bwydlen arbennig 3 chwrs yn cynnwys tê neu coffi £44 rhwng 12-4yh