Caffi Clwyd
Wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, bydd Caffi Clwyd ar agor bob bore am 9am, gan gynnig teisennau a rholiau brecwast, cyn symud ymlaen drwy’r dydd at frechdanau, saladau, cacen a choffi barista. Yn berffaith ar gyfer coffi hamddenol gyda ffrindiau neu gyfarfod busnes cyflym dros baned o de a chacennau cri Cymreig.
Cynnyrch Lleol
Mae Bryn yn ymfalchio mewn dathlu cynnyrch lleol, yn dod o hyd i’r cynhwysion gorau o gyflenwyr yr ardal. Mae ein coffi moethus, aromatig yn dod o gwmni lleol Poblado, tra bod y cigoedd safonnol yn cael eu cyflenwi gan ffermwyr Gogledd Cymru sy’n rhannu ein ymrwymiad i ymarferion moesegol a chynaliadwy. Cawn fara fres a chacennau bendigedig gan bobyddion medrus lleol, sy’n dod a gwir flas yr ardal i bob plât.
Mae cefnogi cynhyrchwyr lleol yn rhan anatod o ethos y caffi - nid yn unig ydy hyn yn sicrhau ffresni eithriadol a blas arbennig, ond hefyd yn cryfhau yr economi leol ac yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned.